Her stepen drws Versus Arthritis

Supporters in front of the House of Commons

 

Mae’n rhaid sicrhau na aiff pobl gydag arthritis yn angof yn ystod yr Etholiad Cyffredinol eleni.  

Mae ymgeiswyr seneddol lleol ledled y DU wrthi’n brysur yn ceisio ennill ein hymddiriedaeth – ac ein pleidlais. Mae’n bwysig eu bod nhw’n clywed gan bobl leol sy’n byw gydag arthritis am yr heriau rydym yn eu hwynebu o ddydd i ddydd – a sut allan nhw hyrwyddo newid, yn lleol ac yn San Steffan, os cân nhw eu hethol. 

Dyma rai o’r cwestiynau gallwch chi eu gofyn os oes unrhyw ymgeiswyr neu gynrychiolwyr pleidiau yn curo ar eich drws:  

Cwestiwn 1

Yn aml iawn mae cynlluniau iechyd lleol a chenedlaethol yn methu â chydnabod bod 1 o bob 6 ohonom yn byw gydag arthritis ac yn anwybyddu’r effaith ar eu bywydau. Pe baech chi’n cael eich ethol, sut fyddech chi’n gofalu caiff arthritis ei flaenoriaethu yn y cynlluniau hyn?

Cwestiwn 2

Mae dros filiwn o bobl yn DU yn aros am driniaeth trawma ac orthopedig, megis llawdriniaeth gosod cluniau a phen-gliniau newydd, a allai newid eu bywydau. Pe baech chi’n cael eich ethol, sut fyddech chi’n helpu i leihau’r amseroedd aros am y math hwn o ofal sydd wedi’i gynllunio yn ein hardal ni?

Cwestiwn 3

Ar hyn o bryd, dydy’r cyllid tuag at ymchwil cyhyrysgerbydol ac arthritis ddim yn cyd-fynd â’r effaith sylweddol mae’r cyflyrau hyn yn ei gael ar bobl a’r gymdeithas ehangach. Pe baech chi’n cael eich ethol, sut fyddech chi’n helpu sicrhau rhagor o gyllid tuag at ymchwil cyhyrysgerbydol ac arthritis?

Cwestiwn 4

Mae gormod o bobl ag arthritis yn methu â gweithio yn sgil diffyg cymorth ar gyfer eu cyflwr. Mae 1 ym mhob 5 o bobl sy’n ddi-waith ar hyn o bryd yn datgan eu bod yn byw gydag arthritis neu gyflwr cyhyrysgerbydol arall. Pe baech chi’n cael eich ethol, sut fyddech chi’n gofalu bod pobl sydd ag arthritis yn derbyn y cymorth i allu cychwyn gweithio neu barhau i weithio?

Cwestiwn 5

Mae gan oddeutu 10,000 o blant o dan 16 yn y DU arthritis, a dydy llawer ohonyn nhw ddim yn derbyn y cymorth y mae dirfawr ei angen arnyn nhw. Pe baech chi’n cael eich ethol, sut fyddech chi’n lleisio’ch barn dros bobl ifanc sydd ag arthritis a gofalu bod gwasanaethau ar gael i gynnig cymorth i bobl plentyn a pherson ifanc sydd ag arthritis?

Cwestiwn 6

Versus Arthritis ydy elusen fwyaf y DU sy’n ymroi i eirioli dros y 10 miliwn o bobl sy’n byw gydag arthritis ledled y DU. Pe baech chi’n cael eich ethol, sut fyddech chi’n cefnogi’r 15,000 o bobl leol sy’n byw gydag arthritis yn eich etholaeth ac yn gweithredu fel hyrwyddwr AS arthritis drostyn nhw?

 

Download Her stepen drws Versus Arthritis cwestiynau (pdf)

Download Take The Doorstep Challenge questions (English) (pdf)

Have any questions for us? Email campaigns@versusarthritis.org.