How do I contact the helpline?
You don’t need to face arthritis alone. Our advisors aim to bring all of the information and advice about arthritis into one place to provide tailored support for you.
Call 0800 5200 520 for free today (Monday–Friday, 9am–6pm)
The helpline is closed from 12.00 pm the last Friday of every month for training.
Email us: helpline@versusarthritis.org
Write to us:
Helpline
Versus Arthritis
Copeman House, St Mary’s Court
St Mary’s Gate
Chesterfield S41 7TD
You can also speak to the helpline, as well as other people with arthritis, through our online community.
Please note: calls to our 0800 number are free when calling from within the UK but charges will apply when calling from abroad. For more information you will need to contact your network provider.
What can the helpline support with?
Our aim is to provide people with arthritis, and those around them, with up to date information, advice and emotional support.
We can help with over 200 conditions, including OA, RA, fibromyalgia, psoriatic arthritis and gout.
We want to empower people to understand more about their condition and the treatments and self-help options available.
We aim to bring you the most up to date evidence-based information and developments on arthritis and rheumatology, based on the latest research and medical information. We will always try to answer your questions.
We provide information and support on a range of topics such as:-
- Understanding your condition
- Managing your condition
- How to get a diagnosis
- Medication and treatment options
- Pain management
- Issues with work
- Benefits available
- Self-help (diet, exercise, complementary therapies)
- Surgery
- Latest research
- Services available
We also offer a telephone interpreting service for people whose first language isn’t English. Call our helpline to request an interpreter.
Who will I speak to?
You can be sure you’ll speak to someone who understands, because each member of the team are trained and have extensive knowledge of different types of arthritis and are updated regularly on new developments.
Your medical questions
We receive a wide variety of enquiries but please be aware that we are not medically trained and are unable to answer individual medical questions. We would always refer you to your consultant or GP in this situation. We really do appreciate how frustrating this is as often it is difficult to get through to healthcare professionals, but it would be unsafe for us to field this type of question.
When appropriate we will share with you other sources and give details of the best organisation to help you, perhaps with more in-depth knowledge and experience on a particular topic.
What happens when I get in touch?
If you contact us, you’ll receive support that is tailored to your needs. Our helpline advisor will listen and give you balanced information and personal support. If appropriate, they’ll send you information for you to read in your own time.
You’re welcome to get in touch again with any further questions you may have.
We can only give very general advice and cannot give direct medical advice on individual's circumstances.
What else do I need to know?
Lines open from 9am-6pm, Monday–Friday (excluding bank holidays). All calls are free from all UK landlines and on consumer mobile phones.
Please note that our advisors aren’t medically trained and aren’t able to offer you individual medical advice. We recommend that you speak with your GP or another healthcare professional for one-to-one medical advice. Calls are recorded for training and quality purposes.
Your personal information and details of the enquiries received are stored on a secure database in line with our privacy policy. If for any reason you wish to have your personal details removed, please contact our supporter care team on 0300 790 0400.
The service we provide is confidential, for more information please read our Helpline Confidentiality Statement.
Our helpline is a member of the Helplines Partnership, which helps us to make sure that we provide a high quality and professional service.
Cymraeg
Sut gallaf gysylltu â'r llinell gymorth?
Nid oes angen i chi wynebu arthritis ar eich pen eich hun. Nod ein hymgynghorwyr yw dod â'r holl wybodaeth a chyngor am arthritis i un lle er mwyn darparu cymorth wedi'i deilwra i chi.
Ffoniwch 0800 5200 520 am ddim heddiw (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb–6yh)
Mae'r llinell gymorth ar gau o 12.00yp ar ddydd Gwener olaf pob mis ar gyfer hyfforddiant.
E-bostiwch ni: helpline@versusarthritis.org
Ysgrifennwch atom:
Helpline
Versus Arthritis
Copeman House, St Mary’s Court
St Mary’s Gate
Chesterfield S41 7TD
Gallwch hefyd siarad â'r llinell gymorth, yn ogystal â phobl eraill ag arthritis, trwy ein cymuned ar-lein.
Sylwch: mae galwadau i’n rhif 0800 yn rhad ac am ddim pan fyddwch yn ffonio o’r tu mewn i’r DU ond codir tâl pan fyddwch yn ffonio o dramor. I gael rhagor o wybodaeth bydd angen i chi gysylltu â darparwr eich rhwydwaith.
Gyda beth gall y llinell gymorth helpu?
Ein nod yw darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth emosiynol gyfredol i bobl ag arthritis, a'r rhai o'u cwmpas.
Gallwn helpu gyda dros 200 o gyflyrau, gan gynnwys OA, RA, ffibromyalgia, arthritis soriatig a gowt.
Rydym yn dymuno grymuso pobl i ddeall mwy am eu cyflwr a'r triniaethau a'r opsiynau hunangymorth sydd ar gael.
Ein nod yw dod â'r wybodaeth ddiweddaraf sy'n seiliedig ar dystiolaeth a datblygiadau ar arthritis a rhiwmatoleg i chi, yn seiliedig ar yr ymchwil a'r wybodaeth feddygol ddiweddaraf. Byddwn bob amser yn ceisio ateb eich cwestiynau.
Rydym yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth ar amrywiaeth o bynciau megis:-
- Deall eich cyflwr
- Rheoli eich cyflwr
- Sut i gael diagnosis
- Opsiynau meddyginiaeth a thriniaeth
- Rheoli poen
- Problemau gyda gwaith
- Budd-daliadau sydd ar gael
- Hunangymorth (diet, ymarfer corff, therapïau cyflenwol)
- Llawfeddygaeth
- Y gwaith ymchwil diweddaraf
- Gwasanaethau sydd ar gael
Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth cyfieithu dros y ffôn i bobl nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt. Ffoniwch ein llinell gymorth i ofyn am gyfieithydd.
Gyda phwy y byddaf yn siarad?
Gallwch fod yn siŵr y byddwch yn siarad â rhywun sy’n deall, oherwydd mae pob aelod o’r tîm wedi’u hyfforddi, ac mae ganddynt wybodaeth helaeth am wahanol fathau o arthritis ac yn cael eu diweddaru’n rheolaidd ar ddatblygiadau newydd.
Gallwn ddarparu cyfieithydd Cymraeg ar gyfer eich galwad.
Eich cwestiynau meddygol
Rydym yn derbyn amrywiaeth eang o ymholiadau ond cofiwch nad ydym wedi cael hyfforddiant meddygol ac na allwn ateb cwestiynau meddygol unigol. Byddem bob amser yn eich cyfeirio at eich meddyg ymgynghorol neu feddyg teulu yn y sefyllfa hon. Rydym yn gwerthfawrogi pa mor rhwystredig yw hyn, gan ei bod yn aml yn anodd cysylltu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ond byddai'n anniogel inni ateb y math hwn o gwestiwn.
Pan fo'n briodol byddwn yn rhannu gyda chi ffynonellau eraill ac yn rhoi manylion y sefydliad gorau i'ch helpu, efallai gyda gwybodaeth a phrofiad manylach ar bwnc penodol.
Beth sy'n digwydd pan fyddaf yn cysylltu?
Os byddwch yn cysylltu â ni, byddwch yn derbyn cymorth sydd wedi’i deilwra i’ch anghenion. Bydd ein cynghorydd llinell gymorth yn gwrando ac yn rhoi gwybodaeth gytbwys a chefnogaeth bersonol i chi. Os yw’n briodol, byddant yn anfon gwybodaeth atoch i chi ei darllen yn eich amser eich hun.
Mae croeso i chi gysylltu eto gydag unrhyw gwestiynau pellach sydd gennych.
Dim ond cyngor cyffredinol iawn y gallwn ei roi, ac ni allwn roi cyngor meddygol uniongyrchol ar amgylchiadau unigolion.
Beth arall sydd angen i mi ei wybod?
Mae Llinellau Ffôn ar agor o 9yb-6yh, dydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc). Mae pob galwad am ddim o holl linellau tir y DU ac ar ffonau symudol i ddefnyddwyr.
Sylwch nad yw ein cynghorwyr wedi cael hyfforddiant meddygol ac ni allant gynnig cyngor meddygol unigol i chi. Rydym yn argymell eich bod yn siarad â'ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall am gyngor meddygol un-i-un. Caiff galwadau eu recordio at ddibenion hyfforddi ac ansawdd.
Mae eich gwybodaeth bersonol a manylion yr ymholiadau a dderbyniwyd yn cael eu storio ar gronfa ddata ddiogel yn unol â’n polisi preifatrwydd. Os hoffech chi gael tynnu eich manylion personol am unrhyw reswm, cysylltwch â'n tîm gofal cefnogwyr ar 0300 790 0400.
Mae'r gwasanaeth a ddarparwn yn gyfrinachol, am ragor o wybodaeth darllenwch ein Datganiad Cyfrinachedd Llinell Gymorth.
Mae ein llinell gymorth yn aelod o'r Bartneriaeth Llinellau Cymorth, y'n ein helpu i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth proffesiynol o safon uchel.