Ymgyrchu yng Nghymru

Read this page in English

Gosod arthritis ar yr agenda yng Nghymru

Mae ein hymgyrchu wedi arwain at newid gwirioneddol i bobl gydag arthritis yng Nghymru.

Mae llwyddiannau ein hymgyrchoedd diweddar yn cynnwys.

Os edrychwn ymhellach yn ôl, arweiniwyd yr ymgyrch dros ehangu’r cynllun presgripsiynau am ddim i bawb sydd â chyflyrau iechyd cronig yng Nghymru (a arweiniodd at roi’r gorau i dalu am bresgripsiynau yng Nghymru).

Er gwaetha’r newidiadau hyn, mae llawer i’w wneud o hyd i godi ymwybyddiaeth o effaith arthritis ar unigolion ac ar gymdeithas, i wella gwasanaethau gofal iechyd i bobl ag arthritis ac i roi arthritis yn flaenoriaeth gofal iechyd sy’n cyd-fynd â’i effaith.

Ymgyrchwyr – cymerwch ran!

Mae gennym gymuned weithredol o ymgyrchwyr sy’n angerddol am wneud gwahaniaeth i bawb sy’n byw gydag arthritis yng Nghymru. Mae llawer o ffyrdd o gymryd rhan:

  • Rhannwch eich stori gyda Versus Arthritis
  • Dilynwch ein cyfrifon ar Facebook a Twitter i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein hymgyrchoedd.
  • Mae ein Gwirfoddolwyr Gwneud Gwahaniaeth yn datblygu ein blaenoriaethau ymgyrchu, ein cynlluniau gweithredu ac maent yn ymgysylltu â’u gwneuthurwyr penderfyniadau lleol. E-bostiwch ni yn cymru@versusarthritis.org i ofyn am ddisgrifiad rôl.
  • Ymunwch â’n cymuned Versus Arthritis ledled y DU a derbyn e-ddiweddariadau rheolaidd, gan gynnwys manylion am ein hymgyrchoedd e-weithredu.
  • Os hoffech chi roi gwybod i ni am fater yn eich ardal y dylen ni fod yn ymgyrchu drosto, e-bostiwch ni: cymru@versusarthritis.org

Gwybodaeth ar gyfer Aelodau o’r Senedd, Aelodau Seneddol, Cynghorwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau eraill

Gwybodaeth ar gyfer Aelodau o’r Senedd, Aelodau Seneddol, Cynghorwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau eraill

Wrth i 974,000 o bobl fyw gydag arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol yng Nghymru, rydym yn gwybod bod llawer ohonoch chi wedi profi’r effaith enfawr y gall arthritis ei chael ar ansawdd bywyd yn bersonol neu drwy aelod o’ch teulu neu’ch ffrindiau.

Mae angen eich cymorth arnom i sicrhau bod anghenion pobl sy’n byw gydag arthritis yn cael eu clywed yn glir yn y Senedd, yn San Steffan, yn ein cynghorau lleol ac yn ein Byrddau Iechyd.

Mae ein Tîm Polisi a Materion Cyhoeddus yng Nghymru yma i roi gwybodaeth a’r ymchwil ddiweddaraf i chi ar faterion polisi. E-bostiwch ni yn cymru@versusarthritis.org i drafod materion polisi, ein hymgyrchoedd neu faterion eraill sy’n effeithio ar bobl gydag arthritis yn eich ardal.

Rydym yn rhoi e-ddiweddariadau ar amseroedd aros orthopedig i bob Aelod o’r Senedd bob mis, os hoffech chi gael eich cynnwys ar ein rhestr ddosbarthu, e-bostiwch h.evans@versusarthritis.org

Mae ein gwasanaethau cymorth ar gael i’ch etholwyr. A wnewch chi gyfeirio etholwyr perthnasol i’n llinell gymorth - 0800 5200 520. Bydd tîm ein llinell gymorth yn rhoi gwybodaeth sydd wedi’i theilwra ar gyfer yr unigolyn gan gynnwys manylion am ein gwasanaethau lleol. Mae gennym 30 o grwpiau cymorth lleol yng Nghymru.

Adnoddau ar gyfer gwneuthurwyr penderfyniadau

Cymru Versus Arthritis: Maniffesto Etholiad y Senedd 2021  
Cymru Versus Arthritis: Pecyn Croeso Aelodau o’r Senedd 2021  
Versus Arthritis: Cyflwr Iechyd Cyhyrysgerbydol 2024 (Dogfen ar gyfer ledled y DU)
Perfformiad a Gwella GIG Cymru: Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Cyhyrysgerbydol 
GIG Cymru: Fframwaith Cenedlaethol Cyhyrysgerbydol 2024-2029
GIG Cymru: Datganiad Ansawdd Cenedlaethol Cyhyrysgerbydol 2024
Addysg a Gwella Iechyd GIG Cymru: Fframwaith gallu cyhyrysgerbydol aml-broffesiynol Cymru
Y Strategaeth Glinigol Genedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Orthopedig: Glasbrint Cenedlaethol ar gyfer Cyflenwi Llawfeddygaeth Orthopedig yng Nghymru 2022 ac adroddiadau dilynol  

Ymgyrchoedd cyfredol Cymru Versus Arthritis

Maniffesto Etholiad y Senedd 2026 [Dolen ar gael cyn hir]

Bydd ein Maniffesto Etholiad y Senedd 2026 yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2026 a chaiff ei ddosbarthu i bob ymgeisydd o bob un o’r prif bleidiau cyn yr etholiad. Rydym yn awyddus i rannu ein syniadau polisi a’n galwadau gyda gwneuthurwyr penderfyniadau wrth i ni ddatblygu ein maniffesto. Os hoffech chi drafod ein maniffesto gyda ni, e-bostiwch h.evans@versusarthritis.org

Gostwng amseroedd aros ar gyfer llawfeddygaeth orthopedig

Mae amseroedd aros ar gyfer llawfeddygaeth orthopedig yn parhau i fod yn llawer rhy hir wrth i degau o filoedd o bobl aros dros flwyddyn am driniaeth mewn poen difrifol a phoen sy’n gwaethygu. Mae llawer yn colli eu symudedd, eu hannibyniaeth a’u gallu i weithio wrth iddynt aros am driniaeth. Mae targedau amseroedd aros niferus heb eu cyrraedd gan Lywodraeth Cymru.

I ostwng amseroedd aros, rydym yn galw am gynllun gweithredu orthopedig cenedlaethol newydd i adnabod y gweithlu a’r cyfleusterau angenrheidiol i ddiwallu’r galw presennol a’r galw a ragwelir trwy rwydwaith ehangach o hybiau llawfeddygol lleol a rhanbarthol.

Gwella gwasanaethau gofal iechyd arthritis

Mae cyflyrau Cyhyrysgerbydol ymhlith yr achos mwyaf o boen parhaus, anabledd a cholli diwrnodau gwaith. Mae cyffredinolrwydd ac effaith cyflyrau cyhyrysgerbydol ar y GIG a’r economi yn enfawr a rhagwelir y bydd hyn yn cynyddu. Mae angen i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu polisi iechyd cyhyrysgerbydol a gweithio i leihau effaith arthritis ar y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol.

Rydym yn gweithio i gefnogi’r Rhwydwaith Strategaeth Clinigol Cyhyrysgerbydol newydd i ddatblygu llwybrau gofal a manyleb gwasanaeth i yrru safonau gofal iechyd ar draws Cymru. Mae angen i’r Fframwaith Cyhyrysgerbydol Cenedlaethol, Datganiad Ansawdd Cyhyrysgerbydol a’r Fframwaith Gallu Cyhyrysgerbydol Aml-broffesiynol gael eu gweithredu’n llawn ar draws Cymru.