Information and Support Talk Volunteer
Information and Support Talk Volunteer
Please scroll down to access the Welsh language version of this opportunity.
Time commitment: Flexible, each session lasts 1 – 2.5 hours plus time for training and reflective practice
Travel: A community-based venue or online.
Are you passionate about supporting others and looking for a way to get involved in your local community? Do you love working as part of a team, and would like to give something back while enjoying meeting people and making new friends?
We are currently recruiting Information Support and Talk Volunteers in the location(s) listed below. We would love you to volunteer with us!
About the role
At Versus Arthritis, we believe everyone should have the support and information they need to live well. Our peer-led information sessions empower people, including people with arthritis, chronic pain, and MSK conditions by giving them tools to take back control and manage their condition with confidence.
- Working as part of a team to prepare and deliver information sessions.
- Helping participants learn practical self-management techniques
- Answering general queries and signpost specific questions to the appropriate member of staff, resources or helpline
- Ensuring safeguarding procedures are followed.
Download the role profile for a Information and Support Talk Volunteer (PDF 139KB).
If you have any questions about this role before applying, please contact volunteering@versusarthritis.org.
How to apply
Please complete and submit the Volunteering Application Form online, please include the relevant code for the location of the role you are interested in:
- Information and Support Talk Volunteer (116) - Dolgellau & Surrounding Areas, Gwynedd
- Information and Support Talk Volunteer (145) - North Powys, Wrexham and Denbighshire
- Information and Support Talk Volunteer (134) - Belfast
- Information and Support Talk Volunteer (130) - South East Trust, Northern Ireland
When we have received your application we will be in touch, our safer recruitment process will include:
- An informal chat to discuss the role, get to know you and understand your motivations for volunteering
- Two references
- Photo identification.
About us
We have made a commitment in our Diversity and Inclusion Strategy to increase the diversity of our charity and we welcome candidates from a wide variety of backgrounds and experiences. We want our employees, volunteers and trustees to represent the broad diversity of the communities of which we are a part.
There are over 10 million people living with arthritis. That’s one in six, with over half of those living in pain every single day. The impact is huge as the condition slowly intrudes on everyday life – affecting the ability to work, care for a family, to move free from pain and to live independently. Yet arthritis is often dismissed as an inevitable part of ageing or shrugged off as ‘just a bit of arthritis’. We don’t think that this is okay. Versus Arthritis is here to change that.
Versus Arthritis is committed to keeping children, young people and vulnerable adults safe from harm. During the recruitment process we will undertake safer recruitment practices and relevant checks to ensure applicants are suitable to work with children, young people and vulnerable adults.
Read more about volunteering for us.
Gwirfoddwr Gwybodaeth a Chymorth Siarad
Ymrwymiad Amser: Hyblyg, mae pob sesiwn yn para rhwng 1 awr i 2.5 awr yn ogystal ag amser ar gyfer hyfforddiant ac ymarfer myfyriol
Teithio: Lleoliad yn y gymuned neu ar-lein
Ydych chi’n angerddol am gefnogi pobl eraill ac yn chwilio am ffordd o gymryd rhan yn eich cymuned leol? Ydych chi’n dwlu ar weithio fel rhan o dîm a hoffech chi roi rhywbeth yn ôl wrth fwynhau cwrdd â phobl a gwneud ffrindiau newydd?
Ar hyn o bryd, rydym yn recriwtio Gwirfoddolwyr Gwybodaeth a Chymorth Siarad yng ngogledd-orllewin Cymru. Byddem wrth ein boddau yn eich cael chi’n gwirfoddoli gyda ni!
Gwybodaeth am y rôl
Yn Versus Arthritis, credwn y dylai pawb gael y cymorth a’r wybodaeth y mae ei hangen arnynt i fyw yn dda. Mae ein sesiynau gwybodaeth a arweinir gan gymheiriaid yn grymuso pobl, gan gynnwys pobl ag arthritis, poen cronig a chyflyrau cyhyrysgerbydol drwy roi’r offer iddynt gymryd rheolaeth yn ôl a rheoli eu cyflwr yn hyderus.
- Gweithio fel rhan o dîm i baratoi a chyflwyno sesiynau gwybodaeth
- Helpu cyfranogwyr i ddysgu technegau hunan-reolaeth ymarferol
- Ateb ymholiadau cyffredinol a chyfeirio cwestiynau penodol i’r aelod staff perthnasol, yr adnoddau perthnasol neu’r llinell gymorth berthnasol
- Sicrhau bod gweithdrefnau diogelu yn cael eu dilyn
Lawrlwythwch broffil y rôl ar gyfer Gwirfoddolwr Gwybodaeth a Chymorth Siarad (PDF 139KB).
Os oes gennych chi gwestiynau ynghylch y rôl hon cyn cyflwyno cais, e-bostiwch volunteering@versusarthritis.org.
Sut i gyflwyno cais
Llenwch a dychwelyd y Ffurflen Gais Gwirfoddoli ar-lein, gan gynnwys y cod perthnasol ar gyfer lleoliad y rôl sydd o ddiddordeb i chi:
- Gwirfoddolwr Gwybodaeth a Chymorth Siarad (116) - Dolgellau a’r ardaloedd cyfagos, Gwynedd
Pan fyddwn ni wedi derbyn eich cais, byddwn ni’n cysylltu â chi a bydd ein proses recriwtio fwy diogel yn cynnwys:
- Sgwrs anffurfiol i drafod y rôl, dod i’ch adnabod chi a deall eich cymhelliant am wirfoddoli
- Dau eirda
- Ffotograff adnabod
Gwybodaeth amdanom ni
Rydyn ni wedi ymrwymo i’n Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant i gynyddu amrywiaeth ein helusen ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd a phrofiadau. Rydym yn dymuno i’n cyflogwyr, ein gwirfoddolwyr a’n hymddiriedolwyr gynrychioli amrywiaeth eang y cymunedau rydyn ni’n rhan ohonynt.
Mae dros 10 miliwn o bobl yn byw gydag arthritis. Dyna un o bob chwech ac mae dros hanner ohonynt yn byw mewn poen bob dydd. Mae’r effaith yn enfawr wrth i’r cyflwr ymwthio’n araf i fywyd o ddydd i ddydd – gan effeithio ar y gallu i weithio, i ofalu am deulu, i symud yn rhydd o boen ac i fyw yn annibynnol. Er hyn, yn aml caiff arthritis ei ddiystyru fel rhan anochel o heneiddio neu ei anwybyddu fel ‘dim ond tipyn bach o arthritis’. Nid ydym yn meddwl bod hyn yn iawn. Mae Versus Arthritis yma i newid hynny.
Mae Versus Arthritis wedi ymrwymo i gadw plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed yn ddiogel rhag niwed. Yn ystod y broses recriwtio, byddwn yn cynnal ymarferion recriwtio mwy diogel a gwiriadau perthnasol i sicrhau bod ymgeiswyr yn addas i weithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed.
Darllenwch fwy am wirfoddoli i ni.