Uwch Swyddog Polisi - Cymru

Lleoliad (Cymru): Swyddfa Hybrid* - Caerdydd
Oriau: Amser llawn, 35 awr yr wythnos 
Cyflog: £40,295 y flwyddyn (gweddill y DU)  
Buddion: Gallwch ddarllen mwy am y buddion rhagorol rydyn ni'n eu cynnig 
Math o gontract: Tymor penodol, dyddiad gorffen 31/03/27  
Teithio: Teithio o fewn ac o amgylch Cymru, gyda pharodrwydd i deithio i swyddfeydd Versus Arthritis ar adegau (Llundain, Belfast, Glasgow)  
Dyddiad cau: 23:59, dydd Llun 13 Hydref 2025

Ymunwch â ni a defnyddiwch eich sgiliau, eich gwybodaeth, eich angerdd a’ch egni i'n helpu i gael dyfodol heb arthritis.  

Ni yw'r dylanwadwyr blaenllaw dros newid yng Nghymru ac rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Polisi profiadol i ymuno â'n tîm Partneriaethau a Dylanwadu deinamig yng Nghymru. Byddwch yn rhan o dîm angerddol sy'n ymroddedig i sicrhau newid parhaol i unigolion sydd ag arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol (MSK), gan nodi atebion polisi creadigol, dylanwadu ar wneuthurwyr penderfyniadau ac ymgyrchu ochr yn ochr ag unigolion ag arthritis.

Gyda sefydlu Rhwydwaith Clinigol Strategol MSK (MSK Strategic Clinical Network) yng Nghymru, ynghyd â fframwaith polisi sy'n gosod cyflyrau cyhyrysgerbydol (MSK) fel blaenoriaeth i'r llywodraeth, mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â Versus Arthritis Cymru. Rydym yn obeithiol am y dyfodol ond mae mwy i'w wneud eto.


Ynglŷn â'r rôl

Fel rhan o'n tîm dylanwadu, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio a dylanwadu ar feddwl polisi, rheoli prosiectau brys ar draws ein meysydd blaenoriaeth polisi, a meithrin cysylltiadau â rhanddeiliaid a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ledled Cymru.

Byddwch yn casglu, dadansoddi a rhannu gwybodaeth am ddatblygiadau polisi allanol a'u goblygiadau i unigolion sydd ag arthritis, gan ddatblygu safbwyntiau polisi, cynhyrchu briffiau ac adroddiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a chyfrannu at ymatebion i ymgynghoriadau.

Yn ogystal â gweithio'n agos gyda chydweithwyr a thimau sy'n dylanwadu ar y genedl ar draws y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau a Chenhedloedd Datganoledig, byddwch yn gweithio'n agos gyda thîm Eiriolaeth a Deallusrwydd Iechyd y DU, y Gyfarwyddiaeth Ymchwil a thimau cyfathrebu strategol, gan gynnwys ein cynrychioli ar grwpiau polisi traws-sector a chymryd rhan mewn digwyddiadau a chynadleddau.

Byddwn yn rhoi annibyniaeth, amrywiaeth a her i chi gyda chyfleoedd i arwain prosiectau, i gydweithio ag ymgyrchwyr ysbrydoledig ac unigolion sydd ag arthritis, yn ogystal â chydweithio ag uwch randdeiliaid Llywodraeth Cymru a GIG Cymru. Rydym yn dîm cefnogol a fydd yn gwerthfawrogi eich lles a'ch datblygiad proffesiynol.

Amdanoch chi

Os yw eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad yn cynnwys y canlynol, yna byddem wrth ein bodd o glywed gennych:

Byddwch yn unigolyn dyfeisgar ac yn feddyliwr creadigol, gyda sgiliau cyfathrebu dadansoddol, ysgrifenedig a llafar cryf. Mae ymagwedd frwdfrydig a hyblyg a’r gallu i addasu yn bwysig, ynghyd â’r gallu i weithio’n annibynnol ac ar draws timau, yn ogystal â'r canlynol: 

  • Profiad o ddylanwadu ar bolisi a gwneud penderfyniadau allanol yng Nghymru.
  • Dealltwriaeth o faterion polisi gofal iechyd cyfredol sy'n berthnasol i unigolion sydd â chyflyrau hirdymor neu anabledd.
  • Profiad o ddrafftio papurau polisi a briffiau, a'r gallu i ddeall a mynegi ymchwil academaidd a phapurau polisi. 

Rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn ein gwaith ac anogir y gallu i siarad Cymraeg, neu'r ymrwymiad i ddysgu Cymraeg.

Lawrlwythwch y disgrifiad o’r swydd a'r fanyleb person ar gyfer rôl yr Uwch Swyddog Polisi - Cymru (Word 65KB).

*Fel gweithiwr hybrid, mae disgwyl i chi dreulio tua 40% o'ch amser gwaith yn ein swyddfeydd neu'n gweithio mewn lleoliadau cymunedol. Fel cyflogwr cynhwysol, byddwn yn ystyried gweithio o'r cartref i unrhyw un lle byddai gweithio hybrid yn y swyddfa yn rhwystr i allu gweithio i ni, er enghraifft i rywun sy'n byw gyda chyflwr iechyd hirdymor neu anabledd. 

Buddion

Mae eich buddion rhagorol yn cynnwys y canlynol: 

  • Oriau, amgylcheddau ac arferion gwaith hyblyg i hyrwyddo cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.
  • Cymorth iechyd a lles – gan gynnwys y Rhaglen Cymorth i Weithwyr (cymorth cyfrinachol am ddim 24/7 gydag ymholiadau iechyd meddwl, cyfreithiol ac ariannol).  
  • Cynllun arian parod Simplyhealth ar ôl cwblhau'r cyfnod prawf. 
  • Diwylliant cefnogol a chynhwysol, gydag ystod eang o rwydweithiau a grwpiau cymorth i weithwyr ar gael i ymuno â nhw. 
  • Cyfleoedd dysgu a datblygu gan gynnwys aelodaeth o Linked in Learning. 
  • Gwyliau blynyddol cystadleuol, gyda'r opsiwn i brynu/gwerthu hyd at bum niwrnod y flwyddyn. 
  • Cynllun pensiwn hael, gyda chyfraniad cyflogwr o hyd at 10%. 
  • Cynllun Yswiriant Bywyd (4 x cyflog). 

Sut i wneud cais

Mae'n rhaid i chi fod wedi'ch lleoli, a bod â'r hawl i weithio, yn y DU i wneud cais am y swydd hon.

I wneud cais RHAID i chi gyflwyno: 

  1. CV cryno a diweddar

  2. ynghyd â'r Ffurflen Gais (Word 44KB) hon wedi'i llenwi sy'n dangos sut rydych chi'n bodloni'r gofynion allweddol a nodir yn y disgrifiad o’r swydd a'r fanyleb person ar gyfer rôl yr Uwch Swyddog Polisi - Cymru (Word 65KB). Rhaid llenwi pob adran. 

Anfonwch y ddwy ddogfen drwy e-bost fel atodiadau Word neu PDF erbyn 23:59, dydd Iau 9 Hydref 2025 i recruitment@versusarthritis.org

Os oes gennych gyflwr iechyd sy'n eich atal rhag dilyn y camau uchod, anfonwch e-bost atom ynglŷn â ffyrdd eraill o wneud cais. 


Dyddiad cau ceisiadau a llunio rhestr fer
 

  • Rydym yn cynghori ymgeiswyr i wneud cais yn gynnar gan ein bod yn cadw'r hawl i gau ceisiadau cyn y dyddiad a hysbysebir. 

  • Byddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr ar y rhestr fer yn unig. 


Nid ydym yn dymuno derbyn cyswllt gan asiantaethau neu werthwyr y cyfryngau.
 


Cyfweliadau 
 


Disgwylir cyfweliadau: Dydd Iau 23 Hydref 2025 yn Swyddfa Versus Arthritis Cymru, Caerdydd.
 

 Fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydym yn gwarantu y byddwch yn cael cynnig cyfweliad os byddwch yn datgelu anabledd ac yn dangos tystiolaeth ddigonol yn eich cais eich bod yn bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl hon. Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch ar gyfer eich cyfweliad. 


Amdanom ni
 

Rydym wedi gwneud ymrwymiad yn ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant i gynyddu amrywiaeth ein helusen ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd a phrofiadau. Rydym am i'n gweithwyr, ein gwirfoddolwyr a’n hymddiriedolwyr gynrychioli amrywiaeth eang y cymunedau rydym yn rhan ohonynt.   


Mae dros 10 miliwn o bobl yn byw gydag arthritis. Dyna un o bob chwech, gyda thros hanner y rheini'n byw mewn poen bob dydd. Mae’r effaith yn enfawr gyda’r cyflwr yn ymwthio’n araf i fywyd bob dydd – gan effeithio ar y gallu i weithio, gofalu am deulu, bod yn rhydd o boen a byw’n annibynnol. Er hynny, mae arthritis yn aml yn cael ei ddiystyru fel rhan anochel o heneiddio neu ei ddiystyru fel ‘mond ychydig o arthritis yw e’. Dydyn ni ddim yn meddwl bod hyn yn iawn. Mae Versus Arthritis yma i newid hynny.  


Mae Versus Arthritis wedi ymrwymo i gadw plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed yn ddiogel. Yn ystod y broses recriwtio, byddwn yn ymgymryd ag arferion recriwtio mwy diogel a gwiriadau perthnasol i sicrhau bod ymgeiswyr yn addas i weithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. 


Darllenwch fwy am weithio i ni. 


Hapus i Siarad am Weithio Hyblyg
 

A purple and orange text

Description automatically generated


Mae ein ffyrdd hyblyg o weithio yn galluogi ein gweithwyr i fod yn hyblyg ynglŷn â sut maen nhw'n gweithio, gan sicrhau bod anghenion yr elusen yn cael eu diwallu


Hyrwyddo cydraddoldeb yn y gweithle
  

Graphical user interface, text, application

Description automatically generated 


Hyrwyddo a chefnogi amrywiaeth yn y gweithle
 


Mae Versus Arthritis yn Elusen Gofrestredig Rhif: 207711 ac yn yr Alban Rhif SC041156