Versus Arthritis and Welsh language
Versus Arthritis a’r iaith Gymraeg
Os ydych chi’n chwilio am wybodaeth am eich cyflwr arthritis neu os hoffech chi gefnogi eich teulu a’ch ffrindiau, gallwn ni eich helpu chi.
Mae’r dudalen hon yn amlinellu rhai o’r ffyrdd y gallwn ni eich cefnogi chi yn y Gymraeg. Mae hefyd yn dangos y gwaith rydym yn ei wneud er mwyn gwella gwasanaethau yn Gymraeg.
Gwybodaeth yn Gymraeg
Mae ein gwybodaeth iechyd mwyaf poblogaidd wedi’i hysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg.
Darllenwch ein gwybodaeth am:
Ymestyn: Ymarferion ar gyfer ysgwyddau
Ymestyn: Ymarferion ar gyfer ysgwyddau (ar gyfer arthritis a phoen yn y cymalau)
Cyfres Ymestyn
Cynnig Cymraeg
Rydym wedi ymrwymo i wella’r ffordd rydym yn cefnogi pobl ag arthritis sy’n siaradwyr Cymraeg. Dyna pam ein bod ni wedi creu ein Cynnig Cymraeg ar y cyd â Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.
Fel rhan o’n harlwy Cymraeg, rydym wedi gwneud yr ymrwymiadau canlynol:
- Byddwn yn adnabod pa rai o’n grwpiau sy’n defnyddio’r Gymraeg yn bennaf yn ystod eu cyfarfodydd ac yn eu hyrwyddo yn ddwyieithog.
- Ysgrifennwch atom yn Gymraeg ac fe fyddwn yn eich ateb yn Gymraeg.
- Mae deunyddiau ar gyfer ymgyrchoedd mawr yn ddwyieithog gan gynnwys templedi ar gyfer llythyron a maniffestos. Rydym yn cyfieithu adroddiadau allweddol ar gyfer y Deyrnas Unedig.
- Credwn ei bod hi’n bwysig iawn fod lleisiau ein haelodau sy’n siarad Cymraeg yn cael eu clywed dyna pam mae gennym astudiaethau achos cyfrwng Cymraeg ar gyfer ceisiadau gan y cyfryngau Cymraeg.
- Rydym yn hysbysebu ein swyddi gwag yng Nghymru yn ddwyieithog (disgrifiadau swydd a hysbysebion).
- Gallwch ddarllen ein holl gylchlythyron i wirfoddolwyr yn ddwyieithog.
- Mae ein sesiynau briffio ar bolisi yn cael eu hanfon at Aelodau’r Senedd yn ddwyieithog.
Cymraeg yn y gweithle
Rydym yn awyddus i gael mwy o aelodau staff sy’n siarad Cymraeg yn Versus Arthritis ac rydym yn hyrwyddo pob swydd yng Nghymru yn ddwyieithog. Rydym hefyd yn cynnwys y Gymraeg fel un o’n meini prawf ar gyfer monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth. Yn ogystal, rydym yn cynnig gwersi Cymraeg i unrhyw aelod o staff sy’n dymuno gwella ei sgiliau Cymraeg.
Cewch ragor o wybodaeth am weithio i Versus Arthritis a gallwch weld ein swyddi gwag presennol.
Versus Arthritis and Welsh language
Whether you're looking for information about your arthritis condition, or you want to support family and friends, we can help.
This page outlines some of the ways we can support you in Welsh. It also shows the work we’re doing to improve services in Welsh.
Information in Welsh
Our most popular health information is written in Welsh and English. Read our information about:
Stretching: Exercises for shoulders (for arthritis and joint pain)
Cynnig Cymraeg
We’re committed to improving the way we support people with arthritis who are Welsh speakers. That’s why we’ve created our Cynnig Cymraeg with the Welsh Language Commissioner’s Office.
As part of our Welsh offer, we've made the following commitments:
- We will identify which of our groups and branches predominantly use Welsh in their meetings and we will promote these group sessions bilingually.
- You can write to us in Welsh and we will respond to you in Welsh.
- Materials for large campaigns are bilingual including template letters and Manifestos. We translate key UK reports.
- We feel that it’s important that the voices of our Welsh speaking members are heard and to ensure that we have Welsh Language case studies for Welsh media requests.
- We advertise our staff vacancies in Wales bilingually
- You can read all of our volunteer newsletters bilingually.
- Our policy briefings are sent out to MSs bilingually
Welsh at work
We want more Welsh speaking staff at Versus Arthritis and we promote all Welsh jobs bilingually. And we include Welsh language as one of our equality and diversity monitoring criteria. We also offer Welsh language lessons for any staff member who wants to improve their Welsh.
Find out more about working for Versus Arthritis and see our current vacancies.